Polisi Preifatrwydd WEA Llanelli
Yma yng Nghymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) Llanelli, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ein haelodau ac ymwelwyr â'r wefan a’u cadw’n ddiogel. Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol, yn ei defnyddio, ei storio a’i diogelu, yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR).
Pwy Ydym Ni
Mae WEA Llanelli yn sefydliad cymunedol yng Nghymru sy'n anelu at gyflwyno sgyrsiau addysgol am amrywiaeth o destunau a phynciau. Ein cenhadaeth yw cefnogi addysg oedolion ac ymgysylltu â'r gymuned. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn neu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â ni trwy members@weallanelli.org neu yn y cyfeiriad isod.
Pa wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu
Gwybodaeth Aelodaeth: Pan fyddwch chi'n dod yn aelod, rydym yn casglu eich enw, manylion cyswllt (fel cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn). Nid ydym yn casglu manylion talu. Y cwmni sy’n trafod ein taliadau - https://stripe.com/gb - sy’n gwneud hynny.
Data am Ddefnyddio’r Wefan: Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriadau IP, mathau o borwyr, gwybodaeth am ddyfeisiau, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, a'r amser a dreulir ar ein gwefan.
Cwcis: Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wella’ch profiad, dadansoddi sut rydych chi’n defnyddio'r wefan, a gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis yn ffeiliau bach a roddir ar eich dyfais pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan.
Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth?
- I brosesu eich aelodaeth a’i rheoli, gan gynnwys casglu ffioedd aelodaeth a chyfathrebu â chi am eich aelodaeth.
- Monitro ein gwefan a'n gwasanaethau, eu dadansoddi a’u gwella gan ddefnyddio data a gasglwyd trwy Google Analytics a chwcis.
- Cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a diogelu hawliau, eiddo neu ddiogelwch WEA Llanelli, ein haelodau, neu eraill.
Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu
ydyn ni’n prosesu eich data personol ar sail un neu fwy o'r seiliau cyfreithiol canlynol:
- I gyflawni contract (e.e., rheoli eich aelodaeth).
- Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
- Buddiannau cyfreithlon (e.e., gwella ein gwefan a'n gwasanaethau).
- Ein caniatâd, lle y bo'n berthnasol (e.e., ar gyfer cwcis sydd ddim yn hanfodol).
Rhannu eich dataa
Nid ydym yn gwerthu eich data personol. Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â darparwyr gwasanaeth trydydd parti dibynadwy (e.e. prosesydd taliadau neu ddarparwyr dadansoddeg gwefan) ond dim ond pan fo’n angenrheidiol i weithredu ein sefydliad a'n gwefan. Mae'n ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data a'u drin yn unol â'r gyfraith.
Diogelwch a Chadw Data
Rydyn ni’n cymryd mesurau technegol a threfniadaethol priodol i ddiogelu eich data personol rhag cael eu colli, eu camddefnyddio neu rhag fynediad anawdurdodedig. Rydyn ni’n cadw eich gwybodaeth cyhyd ag sy'n angenrheidiol at y dibenion a amlinellir yn y polisi hwn neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, a heb fod yn hirach na hynny.
Eich Hawliau
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawl i:
- Gael mynediad at y data personol sydd gennym amdanoch chi.
- Gofyn am gywiro data anghywir neu anghyflawn.
- Gofyn am ddileu eich data, lle y bo'n berthnasol.
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar fathau penodol o brosesu.
- Tynnu eich caniatâd yn ôl, lle rydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu data.
- Cwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cwcis a Google Analytics
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wella profiad y defnyddiwr ac at ddibenion dadansoddi. Gallwch reoli eich dewisiadau cwcis trwy osodiadau eich porwr. Mae Google Analytics yn ein helpu i ddeall sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio â'n gwefan. Gellir trosglwyddo data a gesglir gan Google Analytics y tu allan i'r DU, ond mae Google wedi ymrwymo i gydymffurfio â chyfreithiau diogelu data perthnasol.
Newidiadau i'r Polisi Hwn
Efallai y byddwn yn diweddaru'r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu postio ar y dudalen hon ynghyd â’r dyddiad y cafodd ei diwygio ddiwethaf.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn neu sut rydym yn trin eich data, cysylltwch â ni yn:
members@weallanelli.org
WEA Llanelli
Cilgwenyn
Llangennech
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA14 8NZ