Amdanom ni

"Helpu i ehangu'r meddwl a rhoi gwedd newydd ar fywyd i ddynion a menywod" - WEA Llanelli, Mehefin 1914

Y dechrau

Mae Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) Llanelli wedi ennill statws neilltuol yng Nghymru fel un o ganghennau hynaf a mwyaf y Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) ryngwladol. Yn ystod ei hanes mae wedi cyfrannu'n sylweddol at ansawdd bywyd y dref.

Cynigiwyd ei ffurfio gyntaf yn ystod y misoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gynhaliwyd cyfarfod ar yr 20fed o Fehefin, 1914 yn hen Neuadd y Dref yn Hall Street. Mae erthygl yn y Llanelly Mercury yn rhoi cipolwg ar y cyfarfod hwnnw yn ogystal â'i uchelgais. Mae'r fersiwn hawdd ei darllen ar gael yma.

Yn yr erthygl, amlinellodd Ysgrifennydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Cymru, John Thomas, "The Workers' Educational Association is a society of men and women united by the desire to bring within the reach of all workpeople the Higher Education which has until here been the privilege of the few" a hefyd "it aims not at persuasion, but enlightenment. It does not merely tolerate differences of opinion, it welcomes and respects them."

I ddyfynnu tiwtor o’r cyfnod hwnnw, Mr W. King BA, yr amcan oedd "ehangu'r meddwl a rhoi gwedd newydd ar fywyd i ddynion a menywod."

Roedd y WEA yn un o'r sefydliadau cyntaf i gydnabod statws cyfartal i fenywod, ag yntau wedi cael ei ffurfio yn yr un flwyddyn ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol Menywod Prydain (WSPU), a sefydlwyd gan Emmeline Pankhurst, yr adwaenwyd ei aelodau hefyd fel y Swffragetiaid.

Er gwaethaf digwyddiadau erchyll a thrawmatig y Rhyfel Byd Cyntaf, dangosodd Llanelli ymrwymiad parod i addysg oedolion, â’i gweithwyr yn gweithio’n bennaf mewn diwydiant trwm, dociau, pyllau glo, mwyngloddiau a gweithfeydd tun ac yn hoff iawn o beint o gwrw bob nawr ac yn y man. Erbyn Mawrth 1915, sefydlwyd darlithoedd a dosbarthiadau ar y cyd â Chyd-bwyllgor Dosbarthiadau Tiwtorial Prifysgol Aberystwyth.

Ganrif a mwy yn ddiweddarach, ar ôl sawl dirwasgiad economaidd, Rhyfel Byd arall, yr oes niwclear a'r oes ddigidol, mae'r dref wedi gweld newidiadau aruthrol yn ei ffyniant. Mae ei hoes fel pwerdy diwydiannol wedi dirywio ac rydyn ni’n byw mewn amgylchedd glanach, gwyrddach. Yn sgil y newid hwn, mae WEA Llanelli wedi newid hefyd, gan fyfyrio ar y presennol ac edrych i'r dyfodol wrth ddysgu o'r gorffennol a chynnig sgyrsiau misol, am ddim, am amrywiaeth o bynciau, o wleidyddiaeth, athroniaeth, economeg, materion rhyngwladol, hanes a cherddoriaeth, i wyddoniaeth, celf a llenyddiaeth.

Ein diben

Er 1914, rydyn ni wedi esblygu wrth i’r gymdeithas esblygu. Mae'n anodd diffinio sefydliad sydd wedi chwarae rhan yn hanes Llanelli ers ymhell dros ganrif. I ddyfynnu erthygl yn y Llanelli Mercury "It aims not at persuasion, but enlightenment. It does not merely tolerate differences of opinion, it welcomes and respects them". A dyma yw amcan WEA Llanelli hyd heddiw.

Bryd hynny cynigiwyd y dylai cangen o’r “W.E.A.” mewn canolfan ddiwydiannol fel “Llanelly” gynnig cyfres o ddarlithoedd dros y gaeaf am destunau poblogaidd a gwyddonol."

Heddiw, mae WEA Llanelli yn dal i gynnal sgyrsiau rheolaidd, a hynny’n aml yng Nghanolfan Selwyn Samuel. Mae’r gymdeithas yn edrych i'r dyfodol gydag optimistiaeth, yn meithrin cyfeillgarwch newydd, yn ymgysylltu â'r gymuned ac yn sicrhau ymrwymiad i ddysgu gydol oes. Mae'r siaradwyr fel arfer yn amlwg yn eu maes, ac yn rhoi syniadau i ni i sbarduno gwaith pellach gan ein cenhedlaeth bresennol.

Rydyn ni’n dal i gael cefnogaeth gan bobl Llanelli yn ei ffordd ddemocrataidd o ddysgu gydol oes, gan gynnig dosbarthiadau a darlithoedd misol am ddim mewn dewis amrywiol o bynciau, o wleidyddiaeth, athroniaeth, economeg, materion rhyngwladol, hanes a cherddoriaeth, i wyddoniaeth, celf a llenyddiaeth.

Dewch i ymuno â ni, i’n newid ni, i greu Llanelli fodern a chael hwyl wrth wneud hynny.

Ein trefniant

Rydyn ni’n sefydliad gwirfoddol, democrataidd, annibynnol ac mae pob rôl yn cael ei chyflawni’n wirfoddol ac aelodau'n ymgymryd â thasgau ochr yn ochr â'u bywyd gweithiol. Fyddwn ni ddim yn gwneud popeth yn berffaith, ond rydyn ni’n ymdrechu i ddysgu a buasem yn croesawu aelodau a hoffai ymuno â ni neu'n pwyllgor er budd ein cymuned.

Mae gan y pwyllgor gyd-gyfrifoldeb dros lunio rhaglen amrywiol a chynrychioli barn aelodau. Os hoffech godi pwynt o ddiddordeb, cysylltwch ag un o aelodau'n pwyllgor drwy’r cyfeiriadau e-bost isod, neu wyneb yn wyneb yn ystod un o'n cyfarfodydd.

Rydyn ni’n annibynnol ac mae ein hanes a'n gwerthoedd yn cyd-fynd â WEA UK. Mae'r WEA (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr) wedi esblygu dros amser ar lefel ryngwladol, genedlaethol a rhanbarthol ac fel cangen rydym bellach yn gysylltiedig ag Addysg Oedolion Cymru. Rydyn ni’n dal i fod yn annibynnol a dydyn ni ddim yn cael unrhyw gyllid uniongyrchol gan unrhyw sefydliad y tu allan i'r gangen. Os hoffech ein cefnogi, ymaelodwch neu ystyriwch gyfrannu. Am ragor o wybodaeth am ein hanes, cliciwch yma.

Group photo of Maggie Dawson, Lady and Lord Griffiths (WEA Llanelli President), and Ken Owen
Maggie Dawson, yr Arglwyddes a'r Arglwydd Griffiths (Llywydd WEA Llanelli), a Ken Owen yn y llun yn 2014.
Headshot of Richard Talog Jones

Richard Talog Jones

Cadeirydd

Mae Richard wastod wedi bod wrth ei fodd yn dysgu am y byd o'i gwmpas. Roedd ganddo gefndir cynnar yn y celfyddydau, gweithiodd ym maes ffilm a theledu a gwasanaethodd fel milwr wrth gefn pan yn fyfyriwr. Ymunodd â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ac mewn rôl filwrol wrth weithio mewn ardaloedd o wrthdaro. Ar ôl penderfynu dychwelyd adref i Lanelli, bu'n gweithio ym maes rheoli busnes a phrosiectau, ochr yn ochr â'i hobi newydd, sef cadw gwenyn. Tyfodd yr hobi hwn a sefydlodd fferm wenyn fasnachol newydd. Y tu allan i'r fferm mae'n dal i wneud rhywfaint o waith ymgynghori ym maes cyfathrebu ac mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Moeseg y GIG, sy'n llenwi bwlch bach yn y dysgu wrth iddo geisio deall ymyriadau meddygol neu ymchwil newydd. Mae Richard yn awyddus i'r Gymdeithas ffynnu ac i’w helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach.

"Rydyn ni wrth fan croesi yn ein hanes, lle mae sylwadau bach bachog a symlrwydd yn ceisio ymdrin â materion cymhleth, ac mae hynny weithiau'n arwain at gynulleidfa anwybodus. Mae gan WEA Llanelli ran i'w chwarae wrth sicrhau bod pobl yn cael dealltwriaeth ddyfnach am faterion, yn dysgu o hanes ac yn deall syniadau newydd, fel y gallwn ni fel cymdeithas wneud penderfyniadau gwybodus a datblygu meddwl beirniadol annibynnol, cyflawn."

chair@weallanelli.org

Dr Christopher Slader

Trysorydd

Rwyf wedi bod yn aelod o bwyllgor WEA Llanelli ers dros 10 mlynedd - ond eto rwy'n ddiog, mae gen i dymer ddrwg, a dydw i ddim yn gallu sillafu ers yn 2 oed. Mae'n hwyl bod yn 82 oed – rwy’n gallu ffeindio esgus dros fod yn hwyr. Dydy fy nghynlluniau i symud i ochr droseddol bywyd ddim wedi dwyn ffrwyth eto. Roeddwn i'n ymgynghorydd meddygol yn yr Alban am 10 mlynedd cyn penderfynu gadael rôl ddi-wyneb meddygaeth ysbyty, a dod o hyd i gymuned i fagu ein teulu gyda fy ngwraig. Llangennech oedd y gymuned honno ac yno roeddwn i'n ymarfer fel meddyg teulu. Am 10 mlynedd, roeddwn i'n Llywydd Rhyngwladol Servas, sef sefydliad Cynnal Heddwch a Theithio, a ffurfiwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd gan ŵr o Wlad Belg, Americanwr ac Almaenwr a oedd o’r farn mai cyfathrebu â’i gilydd oedd y cyflwyniad gorau i Heddwch a Dealltwriaeth. Mae bellach yn bodoli mewn bron i 70 o wledydd ac mae'n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Cefais fy mhenodi'n drysorydd oherwydd fy ngallu i ddod o hyd i resymau pam nad yw ffigyrau’n adio i fyny, yn hytrach nag oherwydd fy nawn i gyfarwyddo pobl a ddaethai i'm gweld yn fy meddygfa, a fyddai fel arfer yn cael eu cyfeirio at lawfeddyg. Rhowch botel o jin i mi ar fy mhen-blwydd ac fel Sais byddaf yn hedfan yn hudolus yn Gymraeg.

"Antur yw bywyd, nid cystadleuaeth ac mae’r WEA yn ein helpu i gyfathrebu'n barchus ac i ddeall ein gilydd"

treasurer@weallanelli.org

Headshot of Rhodri N Owen

Dr Rhodri N. Owen

Aelodaeth a TG

Mae Rhodri yn angerddol am wyddoniaeth a'r pŵer y mae gwybodaeth yn ei roi i gymdeithas. Mae'n ymchwilydd academaidd ac, yn fwyaf diweddar, mae wedi canolbwyntio ar gemeg bioddadansoddol gyda datblygiad dulliau newydd mewn gwyddorau bywyd, trwy waith ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Byrddau Iechyd Cymru, tra hefyd yn darlithio ym maes Addysg Uwch. Mae Rhodri yn aelod gweithgar o Gymdeithas Frenhinol Cemeg, ac wedi gwasanaethu'n lleol ac yn genedlaethol ar nifer o'i phwyllgorau. Mae hefyd yn ymddiriedolwr ac yn drysorydd Cymdeithas Sbectrometreg Torfol Prydain. Ar ôl ennill ei radd gychwynnol a'i PhD ôl-raddedig dilynol o Brifysgol Abertawe, mae'n gwerthfawrogi’r ymdrech i sicrhau bod addysg uwch ar gael i gynulleidfa eang ac i chwalu rhwystrau sy'n atal mynediad.

"Mae gan WEA Llanelli hanes hir o ddarparu mynediad hawdd at gynnwys addysg uwch ac addysg bellach o safon uchel ar gyfer ei haelodau, am amrywiaeth eang o bynciau, ynghyd â sgyrsiau sy'n ysbrydoli trafodaethau, ac yn eu goleuo, er budd cyd-ddealltwriaeth. Rwyf am sicrhau bod deialog wyneb yn wyneb yn parhau ymhell i mewn i'r 21ain ganrif, er mwyn atal cymdeithas sy’n gweithredu mewn seilos."

members@weallanelli.org

Headshot of Bill Griffiths

Bill Griffiths

Aelod o'r Pwyllgor

Mae Bill wedi bod yn aelod o'r WEA ers bron i 20 mlynedd ac roedd yn Gadeirydd ar gangen Llanelli rhwng 2016 a 2025. Yn enedigol o Bontrhydyfen, Port Talbot, astudiodd Bill ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd gan raddio mewn Economeg a Chymdeithaseg, cyn cwblhau Diploma mewn Cysylltiadau Diwydiannol a Rheoli Personél. Ymunodd â British Leyland Motor Corporation yn Llanelli cyn symud ymlaen i'r cwmni rhyngwladol 3M yng Ngorseinon, gan ddod yn Rheolwr Personél ac yna'n Rheolwr Cysylltiadau Gweithwyr ar gyfer y Grŵp, gan aros yno am 35 mlynedd. Ymunodd hefyd â sefydliad ACAS (Advisory, Conciliation and Arbitration Service) y llywodraeth fel arweinydd prosiectau.

Mae ef a'i deulu wedi bod yn byw yn ardal Llanelli, yn bennaf yn Llangennech ond hefyd yn yr Hendy, er 15 mlynedd. Yn Llangennech roedd Bill yn aelod o Gyngor Cymuned Llangennech am dros 30 mlynedd a bu'n gadeirydd ar 3 achlysur gwahanol. Mae wedi bod yn ysgrifennydd ar Eglwys Bresbyteraidd Cymru Bryn Seion ers dros 25 mlynedd ac yn un o Flaenoriaid y corff hwnnw ers dros 40 mlynedd. Mae hefyd yn aelod o Scarlets Llanelli, clwb Criced Morgannwg a chlybiau rygbi a chriced Llangennech.

"Rwy'n credu bod y WEA yn dal i fod yn bwysig wrth ddarparu cyfleoedd dysgu ac addysg i bobl o bob oedran, ond yn enwedig y rheiny a allai fod wedi colli cyfleoedd cynharach ac sydd bellach yn dymuno adennill y tir hwnnw yn ystod eu hymddeoliad. Yn benodol, rwyf wedi bod yn hwyluso'r cyrsiau poblogaidd am wleidyddiaeth a hanes rhyngwladol yn Llangennech am y 18 mlynedd diwethaf."

bill@weallanelli.org

Headshot of Marian Slader

Dr Marian Slader

Aelod o'r Pwyllgor

Mae gan Marian radd feddygol a bu'n gweithio fel meddyg teulu yn Llangennech am 30 mlynedd ar ôl gadael meddygaeth ysbyty ym maes seiciatreg. Mae hi wedi chwarae rhan weithgar yn y gymuned leol ers dod i Gymru o Glasgow, yn eistedd ar y Cyngor Cymuned lleol fel Cynghorydd ac yn helpu i redeg y Ganolfan Gymunedol yn y pentref. Mae hi wedi bod yn ymwneud â phwyllgor WEA Llanelli er 20 mlynedd.

"Mae WEA Llanelli wedi newid o'i rôl wreiddiol o ddarparu addysg sylfaenol fforddiadwy. Mae bellach yn ceisio rhoi testunau i ni eu hystyried na fyddem fel arall yn dod ar eu traws. Rwy'n mynychu'r cyrsiau gwleidyddiaeth a hanes. Mae'r rhain, a'r darlithoedd, yn ysgogi ac yn goleuo tra yng nghwmni cyd-deithwyr o'r un anian."

marian@weallanelli.org

David Edwards

Aelod o'r Pwyllgor

Gyda chefndir academaidd mewn Economeg o Goleg Prifysgol Caerdydd, mae David wedi gweithio'n llwyddiannus ar amrywiaeth eang o brosiectau fel ymgynghorydd rheoli, yn dilyn ei yrfa gynharach mewn Hyfforddiant Diwydiannol yn y sectorau peirianneg, lletygarwch a gofal iechyd. Mae David yn Gymrawd o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) ac mae ganddo ddiploma mewn Cwnsela yn y Gwaith, Roehampton.

Yn fwy diweddar ef oedd Rheolwr Datblygu Rheilffordd Calon Cymru, lle llwyddodd i oruchwylio prosiect i gynyddu amlder y gwasanaeth a hefyd i ddatblygu rhaglen farchnata lwyddiannus.

"Rwy'n credu bod gan y WEA ran bwysig a chadarnhaol i'w chwarae wrth ledaenu gwybodaeth a dealltwriaeth i fyfyrwyr aeddfed yn ardal Llanelli."

david@weallanelli.org

Roger Price

Is-gadeirydd

vicechair@weallanelli.org

Ruth Price

Ysgrifennydd

Er i mi gael fy ngeni yn Seaside, Llanelli, symudodd fy rhieni i weithio yn y diwydiant dur yng Nghasnewydd ddechrau'r 60au. Cefais fy addysgu yno a symud ymhellach fyth o fy nghynefin pan astudiais Saesneg/Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Caint yng Nghaergaint. Fodd bynnag, roedd atyniad y gorllewin bob amser yn gryf, felly ar ôl y coleg symudais i Gasllwchwr lle cyfarfûm â'm gŵr Roger, a aned yn Llanelli, yn y pen draw, wrth adfeilion rhamantus Castell Llwchwr.

Gweithiais ym maes gwasanaethau cymdeithasol ac addysg iechyd a dechreuais ddysgu Cymraeg fel oedolyn er mwyn i mi allu ynganu enwau lleoedd lleol heb gywilydd, gan fod fy addysg Gymraeg yng Nghasnewydd yn brin yn anffodus. Yn y pen draw, hyfforddais fel athro gan ymgymryd â TAR mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yng Ngholeg y Drindod, a oedd yn gyflawniad balch i ddysgwr Cymraeg. Es ymlaen i weithio mewn ysgolion lleol yna troais at addysg ymwybyddiaeth cyffuriau a arweiniodd fi i ffwrdd o'r gorllewin eto, gan fyw a gweithio yng Nghaergaint am sawl blwyddyn yn y pen draw. Yn 2007 symudon ni yn ôl i Lanelli, lle cymerais ran mewn amrywiaeth o sefydliadau gwirfoddol a hefyd gwleidyddiaeth leol, gan ddod yn gynghorydd dros Ward Elli, a Maeres pan ddaeth fy ngŵr yn Faer Llanelli 2014/15. Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuais fynychu darlithoedd WEA Llanelli, gan ymuno â'r pwyllgor dros ddeng mlynedd yn ôl.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ar wahân i fod yn Ysgrifennydd Aelodaeth, rwyf wedi bod yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu'r rhaglen ddarlithoedd, sef craidd gweithgareddau WEA Llanelli ers dros ganrif. Rwy'n teimlo bod WEA yn sefydliad gwerthfawr iawn yn ein tref yr wyf yn dymuno'n fawr iddo ffynnu a pharhau. Rwy'n falch iawn o weld aelodau pwyllgor newydd a brwdfrydig sy'n teimlo'r un peth, i symud ein sefydliad ymlaen yn y blynyddoedd i ddod, gan ddarparu gwasanaeth unigryw i aelodau a chefnogwyr.

Pan nad ydw i'n cynllunio siaradwyr ar gyfer rhaglenni darlithoedd yn y dyfodol, rydw i hapusaf ar y soffa yn gwylio ffilm ddu a gwyn, bachyn crosio yn fy llaw a chi bach wrth fy ochr.

secretary@weallanelli.org