Pam ymaelodi?

Os ydych chi'n unigolyn chwilfrydig ac yn hoffi plymio'n ddwfn i bynciau
neu fwynhau amrywiaeth o destunau sy'n eich ysgogi, boed hynny’n wyddoniaeth, yn hanes neu’n llenyddiaeth,
yna crëwyd WEA Llanelli ar eich cyfer chi!

Hoffech chi gryfhau eich ystwythder meddyliol ac ehangu eich meddwl beirniadol? Neu brofi'r llawenydd o ddysgu gyda'ch gilydd ac ehangu eich CV trwy ddatblygiad personol?

Er 1914 rydym yn cyflwyno sgyrsiau rheolaidd yn Llanelli gan arweinwyr ac arbenigwyr yn eu maes. Y diben yw ysgogi pobl i feddwl, annog trafodaeth bersonol, ehangu gorwelion a chynnig safbwyntiau newydd.

Ein nod yw bwydo eich archwaeth deallusol, i'ch helpu i ddefnyddio’ch dychymyg ac weithiau herio rhagdybiaethau wrth archwilio ffiniau gwybodaeth trwy antur dysgu gydol oes.

Mewn byd sy’n llawn gwybodaeth ffals, rydym yn cynnig eglurder eang, manwl am bynciau y byddem yn gobeithio y byddent o ddiddordeb i chi.

Dewch i ymuno â chynulleidfa o feddyliau chwilfrydig yn Llanelli. Yma, rydym yn rhannu gwybodaeth ac yn dod i gyswllt â’r ffyrdd diweddaraf o feddwl a syniadau newydd, gan eich helpu i hogi eich sgiliau rhesymu a datgloi ffyrdd newydd o feddwl, i’ch ysbrydoli i ddatrys problemau creadigol a’ch cadw ar flaen y gad mewn byd sy'n newid drwy’r amser.

Does ‘na ddim seremonïau. Yn syml, cewch ddod i mewn, cwrdd â phobl o'r un anian a darganfod pŵer dadl wybodus.

Rydym yn ymdrin â phynciau gwleidyddol a chrefyddol ond rydym yn annibynnol. Rydym yn seciwlar ac yn amhleidiol.

Rydym yn cwrdd yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli ar gyfer amrywiaeth o sgyrsiau. Anogir pobl i ymaelodi er mwyn ein i helpu i dalu’r costau, ond nid yw'n orfodol.

Mae WEA Llanelli yn annog trafodaeth agored am amrywiaeth o faterion ac mae ein sgyrsiau yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Hoffech chi ymaelodi â ni?

Hoffech chi barhau â'n hanes hir o sicrhau bod addysg oedolion o ansawdd uchel yn hygyrch i bawb?

Hoffech chi fod yn rhan o'n cymuned ddysgu fywiog, cymdeithas wirfoddol hynaf Llanelli, a chael dweud eich dweud am sut rydym yn datblygu yn y dyfodol, gan gynnwys helpu ein harwain ni am y pynciau sydd o fwyaf o ddiddordeb i chi?

Hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y siaradwyr sydd ar droed, a chyswllt rheolaidd?

Dim ond £10 y flwyddyn neu £1 y mis, a chewch lais cyfartal am ein dyfodol a’n helpu i barhau.

Os hoffech dalu mewn ffordd arall, cysylltwch â'r Ysgrifennydd Aelodaeth.

Bydd eich aelodaeth yn ein helpu i gyflwyno rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, heb ragfarn wleidyddol, grefyddol neu fasnachol.

Ymaelodwch

Aelodaeth flynyddol

(Talu bob mis)

£1 y mis

Aelodaeth flynyddol

(Un taliad)

£10

Ydych chi’n aelod neu'n danysgrifiwr yn barod?

Mewngofnodwch i'ch aelodaeth